PET(4)-05-12 p15a

P-04-342 Nyrsys MS

Geiriad y Ddeiseb

 

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn credu bod nyrsys sglerosis ymledol (MS) arbenigol yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl sydd â MS a’u teuluoedd, ac y dylid eu diogelu rhag toriadau mewn perthynas â’r byrddau iechyd. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw nifer y nyrsys MS arbenigol yn cael ei leihau yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, a bod y buddsoddi yn dal i ddarparu un nyrs fesul 300 o bobl sydd â MS.

 

Cynigwyd gan: Joseph Carter

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Mis Tachwedd 2011

 

Nifer y llofnodion: 2,163